S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi darllediadau o Daith Llewod Prydain ac Iwerddon

16 Mehefin 2025

Mae hyn yn cynnwys partneriaeth nodedig gyda TG4 i ddarlledu'r gêm agoriadol yn fyw ac am ddim.

Bydd S4C yn darlledu Taith dynion Llewod Prydain ac Iwerddon Qatar Airways 2025 eleni i Awstralia, gan ddechrau gyda darllediad byw o'r gêm agoriadol yn ecsgliwsif ac am ddim, mewn cyd-gynhyrchiad hanesyddol gyda'r sianel Wyddelig, TG4.

Bydd S4C a TG4 yn ymuno i ddod â darllediad rhad ac am ddim o gêm gyntaf erioed y Llewod yn Iwerddon, a'r cyd-gynhyrchiad chwaraeon cyntaf rhwng y ddau ddarlledwr cyhoeddus.

Bydd gêm agoriadol Taith 2025 yn digwydd yn Stadiwm Aviva yn Nulyn ar ddydd Gwener 20 Mehefin am 20:00, wrth i'r Llewod wynebu yr Ariannin, a lwyddodd i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2023.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw yn ecsgliwsif ac am ddim ar deledu cyhoeddus ar S4C yn y Deyrnas Unedig ac ar TG4 yn Iwerddon. Dyma fydd cychwyn y Daith o dan arweiniad y Prif Hyfforddwr Andy Farrell.

Yn dilyn y gêm hon, bydd y Llewod yn hedfan i Awstralia i chwarae naw gêm, gan gynnwys tair Gêm Brawf yn erbyn Awstralia.

Ymhlith y rhai sydd wedi eu henwi yn y garfan eleni mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru Jac Morgan a Tomos Williams, yn dilyn perfformiadau cryf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ddiweddar.

Bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o bob gêm gyda'r nos, tra fydd y gemau ar gael yn fyw ac ecsgliwsif ar Sky Sports.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno gêm fyw gyntaf y Llewod yn erbyn Yr Ariannin yn Nulyn ynghyd â chyn-chwaraewyr y Llewod, Jamie Roberts a Dwayne Peel. Lauren Jenkins fydd yn gohebu, gyda Gareth Charles a Gwyn Jones yn ôl yn sylwebu

Yn fuan ar ôl pob gêm o'r daith yn Awstralia, cadwch lygad am sylwadau onest a dadansoddi manwl yn y fodcast, LlewFod. Yn ymuno â Sarra fydd llu o gyn-chwaraewyr y Llewod, gan gynnwys Ken Owens, Jamie Roberts, Mike Phillips a Shane Williams i rannu eu barn. Bydd LlewFod ar gael ar holl blatfformau digidol S4C, gan gynnwys YouTube a Spotify.

Dywedodd Ben Calveley, Prif Weithredwr Llewod Pydain ac Iwerddon:

"Mae'n wych bod ein gêm gyntaf erioed yn Iwerddon am gael sylwebaeth yn y Gymraeg a'r Wyddeleg diolch i S4C a TG4.

"Mae ychwanegu'r uchafbwyntiau am ddim yma yn ategu at ein cymysgedd o ddarlledu, ynghyd â Sky Sports, partner darlledu ecsgliwsif Taith Llewod Prydain ac Iwerddon yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

"Ac mi fydd y bartneriaeth ddiweddaraf hon yn dod â chefnogwyr hyd yn oed yn agosach at y digwyddiad wrth i ni gychwyn ar beth sy'n sicr o fod yn Daith gofiadwy o Awstralia."

Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:

"Rydym yn falch iawn i ddod â darllediad byw o gêm agoriadol Taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2025 yn ecsgliwsif ac am ddim i gynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y DU ar S4C.

"Mae modd i wylwyr fwynhau uchafbwyntiau helaeth o bob gêm yn ystod y Daith gyda'r nos, gan ddod â'r eiliadau allweddol a'r dadansoddi arbenigol i'r cefnogwyr adref.

"Mae'r gêm hanesyddol hon yn nodi'r tro cyntaf i'r Llewod chwarae yn Iwerddon, ac rydym yn falch iawn i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn TG4 ar y darllediad.

"Mae'n ffordd wych o ddechrau'r hyn sy'n argoeli i fod yn haf cyffrous o rygbi ar S4C."

Dywedodd Rónán Ó Coistealbha, Pennaeth Chwaraeon TG4:

"Mae TG4 yn falch iawn o fod yn rhan o gêm Llewod Prydain ac Iwerddon ar 20 Mehefin.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'n partneriaid yn S4C i ddarparu profiad gwylio arbennig ar deledu ac ar-lein.

"Dyma gyfle gwych i arddangos rygbi ar lefel uchel a dathlu cysylltiad cryf rhwng ein cenhedloedd drwy chwaraeon."

Mae Llewod Prydain ac Iwerddon yn dîm rygbi unigryw sy'n cynnwys chwaraewyr o dimau cenedlaethol Iwerddon, Lloegr, yr Alban a Chymru.

Mae tîm dynion y Llewod yn teithio bob pedair mlynedd. Mae Taith eleni yn dilyn ymgyrch gystadleuol y Chwe Gwlad, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn siapio carfan y Llewod eleni.

Nodiadau i Olygyddion

20/06/2025: Y Llewod v Yr Ariannin (19:30 - Byw)

28/06/2025: Western Force v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau)

02/07/2025: Queensland Reds v Y Llewod (21:00 - Uchafbwyntiau)

05/07/2025: NSW Waratahs v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau)

09/07/2025: ACT Brumbies v Y Llewod (22:15 - Uchafbwyntiau)

12/07/2025: Awstralia/Seland Newydd v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau)

19/07/2025: Awstralia v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau

22/07/2025: Y Brodorion/Pasifika XV v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau)

26/07/2025: Awstralia v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau)

02/08/2025: Awstralia v Y Llewod (20:00 - Uchafbwyntiau)

Bydd sylwebaeth Gymraeg a Saesneg ar gael ar gêm y Llewod v Yr Ariannin yn Nulyn ar S4C.

Bydd sylwebaeth Gymraeg ar gael ar y rhaglenni uchafbwyntiau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?