Huw Stephens ymysg cyflwynwyr Tafwyl ar S4C gyda cherddoriaeth a chyfweliadau byw
13 Mehefin 2025
Tafwyl yw un o wyliau cerddoriaeth, diwylliannol a Chymraeg mwyaf Cymru, a bydd modd gweld llwyth o arlwy yr ŵyl o Barc Bute, Caerdydd ar S4C.
Bydd yr arlwy drydanol yn cael ei darlledu ar nos Sadwrn, 14 Mehefin ac ar y nos Sul, 15 o Fehefin.
Gyda pherfformiadau byw, cyfweliadau gefn llwyfan, a chynnwys digidol ecsgliwsif, gall cynulleidfaoedd fwynhau'r profiad anhygoel mewn sawl lle.
Mae uchafbwyntiau'r ŵyl yn cynnwys:
Fleur De Lys
Meddai Huw Stephens: "Mae'n hyfryd cael bod nol yn Tafwyl, a dod â'r ŵyl arbennig yma i bawb adre ar S4C."
Dyma fydd y bumed flwyddyn yn olynol i Huw gyflwyno o'r ŵyl, meddai:
"Mae Tafwyl wedi creu cynnwrf mawr yn y brifddinas ers y dechrau, ac mae wedi newid yn bositif y syniad o'r iaith Gymraeg i gymaint o bobl sy'n dod iddi.
"Mae'r gerddoriaeth wastad yn amrywiol a diddorol, gyda Diffiniad, Aleighcia Scott ac wrth gwrs Rose Datta a'i band Taran, yn chware eleni. Ac mae darlledu yn fyw o Gaerdydd gyda'r criw wir yn gyffrous. Welwn i chi yna!"
Aleighcia Scott
Meddai Aleighcia Scott, y seren reggae gafodd y rhif 1 cyntaf yn yr iaith Gymraeg yn siartiau Reggae iTunes:
Cyhoeddwyd yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr y bydd ail gyfres o Y Llais ar S4C yn 2026. Mae ceisiadau ar agor a gellid ymgeisio trwy ymweld: Y Llais | S4C
Gallwch weld bandiau eraill yn chwarae'n fyw ar S4C Clic ac YouTube S4C ar brynhawn Sadwrn a Sul gan gynnwys Bwncath, Tara Bandito a Dadleoli.
Tafwyl Sadwrn, 14 Mehefin
14:50-15:30 Dom, Lloyd & Don ar YouTube a Clic
16:00-16:40 Tara Bandito ar YouTube a Clic
17:50-18:30 Dadleoli ar YouTube a Clic
20:00-21:00 Uchafbwyntiau Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube
21:00-22:00 Diffiniad Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube
Tafwyl Sul, 15 Mehefin
16:35-17:10 Taran Ffrydio ar YouTube a Clic
17:10-18:00 Bwncath ar YouTube a Clic
18:30-19:10 Gwibdaith Hen Fran ar YouTube a Clic
20:00-21:00 Uchafbwyntiau Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube
21:00-22:00 Fleur De Lys Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube
Ar alw: S4C Clic, iPlayer ac YouTube Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C