S4C i ddarlledu dartiau byw am y tro cyntaf erioed
11 Mehefin 2025
Bydd S4C yn darlledu pencampwriaeth Cwpan Dartiau'r Chwe Gwlad yn fyw o Ferthyr Tudful ym mis Mehefin, gan nodi darllediad dartiau byw cyntaf y sianel.
Mae'r bencampwriaeth yn cynnwys timau o Gymru, yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Iseldiroedd, a Gweriniaeth Iwerddon, gyda chystadlaethau unigol a chystadlaethau tîm i ddynion a menywod.
Dros dri diwrnod, mi fydd y darllediad byw yn cael ei ffrydio ar S4C Clic a sianel YouTube S4C Chwaraeon, gyda'r ffeinal hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C nos Sul.
Darllediad digidol:
Dydd Gwener, Mehefin 20, 17:00 tan 23:30
Dydd Sadwrn, Mehefin 21, 13:00 tan 20:15
Dydd Sul, Mehefin 22, 14:30 tan 18:30
Darllediad llinol:
Dydd Sul, Mehefin 22, 19:00 tan 22:30
Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y darllediad ar S4C, S4C Clic a YouTube ac ar gael i'w wylio yn fyd eang.
Mae'r darllediad yn cael ei gyflwyno gan Sioned Dafydd, gyda sylwebaeth Gymraeg gan Gareth Roberts a sylwebaeth Saesneg ar gael gan Dan McCarthy.
Dywedodd Dylan Williams, o wefan Darts Cymru:
"Mae'n gyffrous i weld dartiau cystadleuol yn dod i S4C. Gyda'r holl gyffro a'r angerdd o amgylch y gamp ar hyn o bryd, nid oes amser gwell wedi bod i'r sianel i ddangos ei chefnogaeth i'r gamp.
"Fel cefnogwr dartiau Cymru, mae gallu gwylio dartiau lefel uchel yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth na feddyliais erioed y byddwn i'n ei weld."