5 Mehefin 2025
Yn cynnwys cyfweliadau pwerus gan arwyr Cymru fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Ben Davies, a rheolwyr megis Craig Bellamy, Brendan Rodgers a Roberto Martínez.
Mae Joe Allen: Y Chwiban Olaf yn cael ei ddarlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer nos Iau 5 Mehefin am 9.00pm. Mae'r rhaglen ddogfen yn dilyn Joe Allen drwy dymor heb ei hail wrth iddo wynebu penderfyniad anoddaf ei yrfa: dal ati i chwarae neu cerdded i ffwrdd.
Gyda mynediad heb ei debyg o'r blaen, mae'r ddogfen yn mynd o feysydd chwarae ei blentyndod i Anfield, ac yn ôl adref i Abertawe — clwb sydd yn agos at galon Joe a'i deulu:
"Mae'n glwb sydd yn gartref - ma hynny'n amhosib i greu yn rhywle arall."
O'i ymddangosiad cyntaf, sefydlodd Joe ei hun yn gyflym iawn yn y tîm, gyda'i yrfa yn mynd o nerth i nerth.
Ond cynrychioli Cymru oedd "uchafbwynt fy ngyrfa." Derbyniodd ei gap cyntaf i Gymru yn 2009 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Estonia ym Mharc y Scarlets.
Gwnaeth Joe argraff fawr ar ei gyd-chwaraewyr a'r cefnogwyr o'r cychwyn cyntaf.
Mae Aaron Ramsey yn cofio sut wnaeth Joe "ganiatáu i chwaraewyr fel fi a Gareth [Bale] fynegi ein hunain," ac roedd Ben Davies yn teimlo yn "fwy hyderus pan oedd Joe yn y tîm."
Yn y ddogfen, mae Gareth Bale yn canmol Joe Allen:
"Rydw i wedi chwarae gyda'r chwaraewyr gorau yn y byd, mae gan Joe y rhinwedd yna – y deallusrwydd pêl-droed. Legend ym mhob ystyr."
Mae haf 2016 yn parhau i fod yn atgof gwerthfawr i bob un o gefnogwyr Cymru, gyda Joe Allen yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch hanesyddol. Daeth mwy o lwyddiant yn 2022, pan gyrhaeddodd Cymru gystadleuaeth Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
"Mae pawb yn gwybod mai'r wobr bwysicaf yw Cwpan y Byd," dywedodd Joe, "Ennill yn erbyn Wcrain - dwi'n cofio bod yn emosiynol iawn, bron yn crio, roedd e'n foment ble roedd e'n teimlo fel bod popeth yn fy mywyd yn paratoi fi ar gyfer hyn."
Ar ôl ymddeol yn wreiddiol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd yn 2022, mi wnaeth Joe synnu sawl un – gan gynnwys ei hun – pan ddychwelodd i'r tîm dan Craig Bellamy, rheolwr newydd Cymru. Mi aeth Bellamy ei hun i gae ymarfer Clwb Pêl-droed Abertawe i berswadio Joe i ymuno â'r garfan genedlaethol unwaith eto.
Mae Joe yn dweud bod y gêm gyntaf yn ôl yn "gêm ble roedd y penderfyniad i ddod nol yn teimlo fel yr un iawn."
Ym Mai 2025, cyhoeddodd Joe Allen ei ymddeoliad o bêl-droed proffesiynol ar ôl gwneud 77 ymddangosiad rhyngwladol dros ei wlad a chystadlu mewn tair twrnament.
Yn y ddogfen, dywedodd Craig Bellamy:
"Pe bai e byth eisiau dod i hyfforddi gyda ni os nad oedd e'n chwarae, mi fyddwn i'n ei gael e mewn eiliad. Byddwn i'n ei gael e lle bynnag y byddwn i'n mynd. Dyna'r gwir oherwydd dyna faint rwy'n ei werthfawrogi fel person ond hefyd fel chwaraewr."
Mae pêl-droed wedi bod yn ganolog i fywyd Joe Allen ers 25 mlynedd. O feysydd pêl-droed Dinbych-y-pysgod ac Ysgol y Preseli, i'r Uwch Gynghrair a llwyfannau Pencampwriaeth yr Ewros a Chwpan y Byd, mae wedi bod yn daith anhygoel.
Dywedodd Joe Allen:
"Sai'n meddwl byddai Joe ifanc yn gallu credu fy mod i wedi mynd ymlaen i chwarae yn Anfield dros Lerpwl, dros Gymru, i Abertawe a'r holl gystadlaethau dwi wedi chwarae ynddyn nhw."
"Mae'n amser nawr i ddweud diolch i bawb sydd wedi helpu."
Mae Joe Allen: Y Chwiban Olaf ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Iau 5 Mehefin am 9pm ac wedi ei gynhyrchu gan Barn Media.
Lluniau ar gael yma.