S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn canolbwyntio ar rolau strategol i adlewyrchu twf digidol a ffrydio

4 Mehefin 2025

Mae S4C yn falch o gyhoeddi cyfres o newidiadau strategol a phenodiadau newydd i adlewyrchu ffocws cynyddol y sianel ar ffrydio a chynnwys digidol. Wrth i dirwedd y cyfryngau barhau i esblygu, mae'r Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC) a'r unig sianel deledu Cymraeg, yn cymryd camau i ymateb i anghenion newidiol eu cynulleidfaoedd ac i wneud y gorau o'r cyfleoedd yn y byd digidol.

Er mwyn sicrhau bod S4C yn parhau i fod yn flaenllaw ym myd darlledu Cymraeg, mae S4C yn cryfhau ei arweinyddiaeth a'i gallu gweithredol o fewn meysydd pwysig digidol.

O dan arweiniad ei Phrif Swyddog Cynnwys, Llion Iwan, mae'r Darlledwr yn cyflwyno rôl newydd, Pennaeth Ffrydio a Digidol, fydd yn gyfrifol am lunio strategaeth gynnwys a chyhoeddi ar gyfer ei phlatfform Clic, yn ogystal ag iPlayer, YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae S4C hefyd yn cynyddu ei ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd iau trwy ei brand HANSH sy'n cael ei arwain gan Comisiynydd Cynulleidfa Ifanc, Guto Rhun, gyda chynnwys ffurf-fer arloesol a chynnwys digidol wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16-34 oed, a thrwy bwyntiau cyswllt digidol eraill.

Hansh

Mae dwy rôl Crëwr Cynnwys Digidol hefyd yn cael eu hysbysebu i gryfhau'r gallu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol – fydd yn cael eu harwain gan Lleucu Lynch fel Arweinydd Cynnwys Digidol ac Anna Huws fel Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol, sydd newydd cael eu hapwyntio i'r swyddi.

Mae rôl Rheolwr Marchnata Digidol hefyd yn cael ei chreu i gefnogi cynnydd digidol S4C a bydd y rôl yn hanfodol wrth ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd, ysgogi ymgysylltiad ar draws llwyfannau, ac i ddenu cynulleidfaoedd newydd— yn bennaf ar wasanaethau ffrydio a chyfrifon cymdeithasol.

Mae'r swydd Prif Swyddog Technoleg hefyd yn cael ei recriwtio i siapio dyfodol technolegol S4C, gan sicrhau bod ganddi'r seilwaith, y systemau, a'r arbenigedd i gefnogi gwasanaeth ddarlledu a ffrydio digidol-gyntaf. Bydd y Prif Swyddog Technoleg newydd yn chwarae rôl hanfodol wrth lunio'r llwybr technolegol yn y dyfodol, gan gynnwys cynnydd yn y ddarpariaeth ffrydio, gallu data, ac arloesedd platfformau.

Mae'r datblygiadau hyn o dan arweinyddiaeth Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, gyda chreadigrwydd, arloesedd digidol, a thyfiant cynulleidfa fel prif flaenoriaethau yn ogystal â chael amgylchedd agored, cynhwysol, a chyflawn yn y gweithle.

Meddai Geraint Evans:

"Mae'r newid hwn yn hanfodol i sicrhau bod S4C yn ymateb i arferion gwylio sy'n newid, a bod y cynnwys gwych Cymraeg yn cael ei ddangos ar nifer o lwyfannau ac yn cael ei ddarganfod gan gynulleidfaoedd newydd ac ifanc. Mae'r buddsoddiad mewn talent a sgiliau digidol yn adlewyrchu ein nod i fod yn ddarlledwr digidol gyntaf sy'n berthnasol i gynulleidfaoedd nawr ac yn y dyfodol."

Mae pob rôl yn cael ei hysbysebu ar wefan: Swyddi | S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?