S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion Smyrff-igedig! Mae'r Smyrffs yn ôl yn Gymraeg ar ôl 25 mlynedd

27 Mai 2025

Daliwch gafael ar eich hetiau tal gwyn – mae'r Smyrffs yn ôl!

Am y tro cyntaf mewn dros chwarter canrif, mae ein hoff gymeriadau drygionus sydd ddim ond yn dair afal o daldra, yn dychwelyd i'r sgrîn Gymraeg.

Mae S4C yn falch o gyhoeddi bod Y Smyrffs yn dychwelyd – y tro hwn gyda chot newydd o baent, lleisiau newydd, ond yr un galon fawr, las.

Mae'r cymeriadau bach eiconig hyn sydd wedi difyrru plant (a'r hŷn os am fod yn onest) am genedlaethau yn smyrffio eu ffordd yn ôl i fewn i'n cartrefi – ond y tro hwn gyda thafod gwlad y gân.

Bydd Y Smyrffs yn ail gyflwyno wynebau cyfarwydd i'n sgrîn fel Smyrffen, Tada Smyrff doeth, ac hefyd y cymeriad dichellgar sydd yn hela'r Smyrffs, Craca Hyll. Bydd y rhain i gyd â lleisiau Cymraeg newydd yn dod â'r byd hudolus yn fyw.

Roedd ymwelwyr ffodus ag Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, wedi cael eu sbwylio wrth gael gweld egsgliwsif o'r ddwy bennod gyntaf – Trwyn a Hanner ac Y Robot Magu – wnaeth ddiddanu'r gwylwyr iau a hŷn.

Cafodd Y Smyrffs eu creu gan y cartwnydd o Wlad Belg Peyo yn 1958. Ers hynny mae'r Smyrffs wedi bod yn ffenomen rhyngwladol am dros chwe degawd gan ddod yn fyw mewn llyfrau comig, cyfresi animeiddio, ffilmiau poblogaidd, ac atgofion plentyndod ar draws y byd. Gyda diolch i S4C, mae'n nhw nawr yn barod i swyno cenhedlaeth newydd o Gymry.

"Mae'r Smyrffs wastad wedi bod am gyfeillgarwch, cymuned ac efo pinsiad go fawr o rhialtwch," meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys, Plant a Dysgwyr. "Dyn ni wrth ein bodd cael dod â'r cymeriadau bythol wyrdd yn ôl yn Gymraeg, ac yn ymwybodol y bydd y plant a rhieni nostalgaidd yn syrthio mewn cariad efo'r Smyrffs unwaith eto."

Mae'r dychweliad yn cyd-fynd â'r ailgychwyn animeiddiedig poblogaidd o 2021, sy'n cael ei ddarlledu ar Nickelodeon ac ar gael i'w ffrydio ar lwyfannau fel Netflix. A gyda'r ffilm newydd o fyd y Smyrffs wedi ei chyhoeddi'n ddiweddar—gyda neb llai na Rihanna yn chwarae rhan Smyrffen, a'n smyrffio i'r sinemâu ym mis Gorffennaf 2025—mae Smyrffmania yn ôl yn ei hanterth.

Disgwyliwch weld y wynebau glas cyfarwydd i gyd: Peniog (sy'n debygol o fod yn dal i gythruddo pawb gyda'i "Dywedais i!"), Chwithig yn baglu i mewn i drwbwl, Horwth yn dangos ei gyhyrau bob cyfle, ac wrth gwrs, Tada Smyrff yn arwain y pentref gyda doethineb, amynedd, ac ambell bowdr hud.

"Yr unig beth sydd ei angen yw ychydig o ddychymyg… a llawer iawn o smyrff!" meddai Tada—ac mi fyddai'n llygad ei le.

Bydd ffans o'r cartŵn Cymraeg gwreiddiol yn falch o glywed bod llawer o'r enwau clasurol yn aros yr un fath, gan ddod â naws gysurlon o nostalgia. Mae Smyrffen yn dal i ddisgleirio gyda'i swyn a'i chwilfrydedd unigryw, tra bod Craca Hyll, yng nghwmni ei gath Archalen, yn dal i fethu'n lân â dal Smyrff—fel bob amser.

Meddai Véronique Culliford, Llywydd Cwmni Peyo a merch Pierre Culliford (aka Peyo), wnaeth greu'r Smyrffs :

"Dwi'n falch ofnadwy o weld cychwyn y gyfres newydd hon ar S4C. Mae ymdriniaeth yr ieithoedd lleol wastad wedi bod yn ganolog i ni a'r gyfres newydd hon yn y Gymraeg fydd yr hanner canfed iaith o'r gyfres deledu! Gall plant a'u rhieni gyda nhw ddisgwyl llwyth o hwyl tra'n edrych ar Y Smyrffs ar S4C. Mae'r Smyrffs yn ôl!"

P'un ai roeddech chi'n gaeth i'r teledu gyda phowlen o cereals yn yr 80au, neu eich bod yn cyflwyno Y Smyrffs i'ch plant eich hun am y tro cyntaf, mae rhywbeth yn hollol dragwyddol am y mwddrwg gleision.

Mae pob Smyrff yn edrych yn debyg, ond mae gan bob un rywbeth arbennig i'w gynnig—yr ysbryd tîm, teyrngarwch, hiwmor a chalon. Ac yn y byd heddiw, mae croeso mawr i hud smyrffus o'r fath.

Felly, gwnewch yn siŵr bod y popcorn neu baned o de yn barod, rhowch S4C ymlaen, ac ymunwch yng nghân Y Smyrffs. Oherwydd p'un ai ydych chi'n ifanc, neu'n ifanc yn y smyrff, mae wastad lle am ychydig mwy o las yn eich diwrnod.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?