S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr yn fyw o Gaerdydd

20 Mai 2025

Bydd S4C yn darlledu rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr yn ecsgliwsif ar deledu am ddim ar ddydd Sadwrn 24 Mai.

Mewn gêm sy'n uchafbwynt i rygbi Ewropeaidd, mi fydd Northampton Saints ac Union Bordeaux Bègles yn mynd benben â'i gilydd yn Stadiwm Principality Caerdydd.

Mae'r ffeinal eleni yn nodi 30 mlynedd ers cychwyn y gystadleuaeth hon, sy'n un o brif gystadlaethau'r byd rygbi. Cafodd y rownd derfynol gyntaf erioed ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Toulouse a Chaerdydd yn ôl yn 1996 ac eleni fydd y chweched tro i'r digwyddiad gael ei gynnal yn y brifddinas.

Bydd Cwpan y Pencampwyr i'w gweld yn fyw ar draws y DU ar holl lwyfannau S4C: ar deledu ac ar-lein trwy S4C Clic a BBC iPlayer, yn ogystal â sianel YouTube S4C Chwaraeon.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar bob platfform, ac eithrio BBC iPlayer.

Media Atom fydd yn cynhyrchu'r darllediad ar gyfer S4C ac yn cynnwys dadansoddi arbenigol a sylw cynhwysfawr ar y diwrnod.

Catrin Heledd fydd yn cyflwyno gyda Lyn Jones, Sioned Harries, Shane Williams a Rhys Priestland yn ymuno â hi. Yn sylwebu'n Gymraeg fydd Gareth Roberts tra fydd Gareth Charles yn sylwebu'n Saesneg. Lauren Jenkins a'r cyn-chwaraewr Northampton, Rhodri Gomer, sy'n gohebu.

Cyn y rownd derfynol, bydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig ar nos Iau 22 Mai, am 9.00. Mae Rygbi Cymru yn Ewrop 30 (Wales Rugby in Europe 30) yn edrych yn ôl ar 30 mlynedd o gyfraniad Cymreig mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ac ar gael i'w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. Mae isdeitlau Saesneg ar gael.

Bydd y rhaglen yn siartio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau clybiau Cymru ers 1996, gydag uchafbwyntiau o'r gemau mwyaf cofiadwy, hanesion y sylwebwyr, gohebwyr ac wrth gwrs y chwaraewyr a chwaraeodd ran yn rhai o gemau mwyaf rygbi Cymru.

Nodiadau i Olygyddion:

Manylion y gêm:

24/5/25 Rygbi Ewrop: Northampton Saints v Union Bordeaux Bègles, 14:15 (Cic gyntaf 14:45)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?