Mae Huw Stephens, Tara Bethan a Lloyd Lewis ym Mharc Bute yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Cymru - Tafwyl. Bydd na lu o artistiaid cyfarwydd - a newydd - yn perfformio caneuon yn fyw ar y raglen. Bydd perfformiadau cerddorol egsliwsif yn ein gardd cudd, ac mi fydd Gwilym yn perfformio set gyfan yn fyw ar y rhaglen.
Elin Fflur a Trystan Ellis Morris fydd yn cyflwyno prif gystadleuaeth cyfansoddi y flwyddyn. Mewn darllediad byw o Dragon Studios ym Mhencoed, bydd 8 cân newydd yn brwydro am dlws enillydd Cân i Gymru ynghyd a gwobr ariannol o £5000 i'r enillydd, £2000 i'r ail a £1000 i'r trydydd. Pleidlais gyhoeddus yn unig fydd yn dewis yr enillydd, felly cofiwch i fwrw eich pleidlais. Y barnu, y cystadlu, yr anthemau di-ri, pwy fydd y nesa i hawlio eu lle yn hanes Can i Gymru'