Detholiad o lysiau sydd dros ben – sbigoglys, madarch, tomatos, pupur coch
Dull
Cynheswch y popty i 190°C/nwy marc 5.
Agorwch un pecyn o does pwff, torrwch ef yn ei hanner, a'i rolio allan ar arwyneb wedi'i flawdio'n ysgafn. Ceisiwch rolio i ffurfio petryal hir. Stopiwch rolio pan fydd y toes tua ½cm o drwch.
Ailadroddwch gyda'r ail becyn o does pwff.
Rhowch un o betryalau'r toes pwff ar hambwrdd pobi a rhowch eich selsig i lawr canol y toes, gan adael bwlch bach o amgylch yr ymyl. Ychwanegwch eich hoff lysiau neu lysiau dros ben ar ben y cig.
Gorchuddiwch y gromen gyda'r ail ddarn o does pwff. Pwyswch y toes ar y llenwad i sicrhau ei fod yn ffitio'n glyd yna gwthiwch i lawr yn gadarn o amgylch yr ymyl i selio. Defnyddiwch frwsh toes i orchuddio'r tu allan â gwydredd tenau o felynwy. Gwnewch dwll stêm yn y canol.
Gyda blaen cyllell, gwnewch gyfres o linellau dros y pastai.
Pwyswch wyneb y toes yn ysgafn, gan sicrhau nad ydych chi'n torri'r holl ffordd drwodd i'r llenwad. Pobwch am 30-40 munud arall nes bod y toes pwff yn euraidd.
Gweinwch yn boeth neu'n oer.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rysáit gan Lisa Fearn
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?