Rhowch
y 4 wy mewn sosban ganolig a gorchuddiwch â digon o ddŵr oer i'w
gorchuddio 1 modfedd uwchlaw'r wyau. Dewch â'r dŵr i ferw dros wres
canol-uchel. Berwch am 4 munud ar gyfer melynwy meddal neu 7 munud ar
gyfer melynwy caled. Ar ôl berwi, hidlwch a'u trosglwyddo i bowlen o ddŵr
oer i oeri.
Mewn
powlen ganolig, cymysgwch y selsig (croen wedi'i dynnu), cenin syfi,
persli, mwstard, halen, pupur a nytmeg. Rhannwch y gymysgedd yn 4 a
rholiwch bob un yn beli.
Paratowch
3 powlen: un gyda blawd, un gyda'r ŵy wedi'i guro, ac un gyda'r briwsion
bara.
Pliciwch
yr wyau yn ofalus ac, un ar y tro, gorchuddiwch bob un gyda'r cig selsig.
Gwasgwch y bêl selsig yn eich llaw, rhowch yr ŵy yn y canol a lapio'r cig
o'i gwmpas.
Cynheswch
yr olew mewn padell drwm i 160°C. Rholiwch yr wyau wedi'u lapio yn y
blawd, yna'r ŵy wedi'i guro ac yn olaf y briwsion bara.
Rhowch
yr wyau'n ofalus yn yr olew poeth a'u ffrio am 4–6 munud nes eu bod yn
euraidd tywyll. Trosglwyddwch i bapur cegin i ddraenio.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rysáit gan Michelle Evans-Fecci
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?