S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Wyau Sgotsh

Cynhwysion

  • 4 ŵy
  • 6 selsig
  • 1 llwy fwrdd cennin syfi
  • 1 llwy fwrdd persli
  • 1 llwy fwrdd mwstard
  • Halen a Phupur
  • ½ llwy de nytmeg
  • I'w orchuddio
  • 1 ŵy
  • 100g blawd plaen
  • 100g briwsion bara panko
  • Olew blodyn haul

Dull

  1. Rhowch y 4 wy mewn sosban ganolig a gorchuddiwch â digon o ddŵr oer i'w gorchuddio 1 modfedd uwchlaw'r wyau. Dewch â'r dŵr i ferw dros wres canol-uchel. Berwch am 4 munud ar gyfer melynwy meddal neu 7 munud ar gyfer melynwy caled. Ar ôl berwi, hidlwch a'u trosglwyddo i bowlen o ddŵr oer i oeri.
  2. Mewn powlen ganolig, cymysgwch y selsig (croen wedi'i dynnu), cenin syfi, persli, mwstard, halen, pupur a nytmeg. Rhannwch y gymysgedd yn 4 a rholiwch bob un yn beli.
  3. Paratowch 3 powlen: un gyda blawd, un gyda'r ŵy wedi'i guro, ac un gyda'r briwsion bara.
  4. Pliciwch yr wyau yn ofalus ac, un ar y tro, gorchuddiwch bob un gyda'r cig selsig. Gwasgwch y bêl selsig yn eich llaw, rhowch yr ŵy yn y canol a lapio'r cig o'i gwmpas.
  5. Cynheswch yr olew mewn padell drwm i 160°C. Rholiwch yr wyau wedi'u lapio yn y blawd, yna'r ŵy wedi'i guro ac yn olaf y briwsion bara.
  6. Rhowch yr wyau'n ofalus yn yr olew poeth a'u ffrio am 4–6 munud nes eu bod yn euraidd tywyll. Trosglwyddwch i bapur cegin i ddraenio.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Rysáit gan Michelle Evans-Fecci

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?