S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen 'Eton Mess' Mefus

Cynhwysion

  • 225g margarîn
  • 225g siwgr mân
  • 4 wy
  • 225g blawd hunan-godi
  • 100g mefus
  • 450ml hufen dwbl
  • 75g siwgr eisin
  • Rhinflas fanila
  • 4 nyth meringue
  • 250g mefus
  • Jam mefus

Dull

  1. Leiniwch 2 dun 8" gyda papur memrwn.
  2. Cynheswch y popty i 160 ffan/nwy 3
  3. Gan ddefnyddio chwisg llaw neu lwy bren, chwipiwch y margarîn a'r siwgr gyda'i gilydd nes eu bod yn ysgafn.
  4. Ychwanegwch 4 wy wedi'u curo'n raddol yn araf nes bod yr holl wy wedi'i ymgorffori.
  5. Ychwanegwch y blawd hunan-godi a'r mefus.
  6. Rhannwch yn gyfartal rhwng y ddau dun.
  7. Pobwch am 20-25 munud nes eu bod yn frown euraidd.
  8. Tynnwch o'r tun a gadewch iddo oeri.
  9. Unwaith y byddwch chi'n barod i addurno, chwipiwch yr hufen gyda'r siwgr eisin a'r fanila i bigyn meddal.
  10. Ychwanegwch y mefus wedi'u torri a'r meringues at yr hufen.
  11. Rhannwch bob cacen yn ei hanner. Taenwch bob haen gyda'r jam mefus, rhowch draean o hufen Eton mess ar ei ben.
  12. Ailadroddwch hyn a gorffennwch gyda gweddill yr hufen ar ei ben.
  13. Addurnwch gyda mwy o meringues a mefus a chyrlau siocled.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da

Rysáit gan Catrin Thomas

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?