S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen moron

Cynhwysion

  • 40g syltanas
  • 1 oren
  • 2 ŵy
  • 160g siwgr
  • 1 llwy de fanila
  • 150ml olew
  • 150g blawd hunan-godi
  • 1/2 llwy de soda bicarb
  • halen
  • 1 llwy de sinsir
  • 1 1/2 llwy de sinamon
  • 1 1/2 llwy de sbeis cymysg
  • 160g moron
  • 70g cnau ffrengig

Dull

  1. Cynheswch y popty i 160
  2. Croen a sudd yr oren ac ychwanegwch y syltanas. Cynheswch yn y microdon am 2 funud
  3. Ar gyfer y gacen, chwisgwch yr wyau, y siwgr, y fanila a'r olew gyda'i gilydd nes eu bod wedi'u cyfuno. Ychwanegwch y sudd oren a'r syltanas a chymysgwch. Ychwanegwch y blawd, bicarb a'r sbeisys a'u cymysgu. Pobwch am 50-60 munud.Gadewch i oeri ar rac weiren.
  4. Ar gyfer y frosting, curwch y menyn a'r siwgr eisin gyda'i gilydd nes yn llyfn. Ychwanegwch y caws hufen, croen oren, sinamon a fanila a'i guro nes ei fod yn feddal ac yn llyfn. Taenwch dros ben y gacen a'i haddurno â blodau bwytadwy a darnau cnau Ffrengig. Sleisiwch a mwynhewch!

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da

Rysáit gan Michelle Evans-Fecci.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?