S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pysgod gyda caprys a pherlysiau

Cynhwysion

  • blawd plaen
  • 2 ffilet o bysgod gwyn
  • 3 gherkin
  • 2 llwy bwdin caprys
  • persli a chenin
  • sudd lemwn
  • 2 llwy fwrdd mayonnaise

Dull

  1. Rhowch y blawd ar blat gyda halen a phupur a gorchuddiwch y bysgod bob ochr yn y blawd.
  2. Cynheswch olew mewn padell ffrio a choginio'r bysgod am 3 munud bob ochr tan yn euraidd. Codwch o'r badell a'i gadw'n dwym tra'n paratoi'r saws.
  3. Torrwch y gherkin yn fân a rhowch yn yr un badell gyda'r caprys a'u coginio am funud. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu'r perlysiau wedi'u torri'n fan a'r sudd lemwn a'u twymo ar y gwres am hanner munud.
  4. I weini rhowch y pysgod ar blat, wedyn llwyaid o mayonnaise ac arllwys y saws perlysiau dros ei ben.

Wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Rysáit gan Nerys Howell.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?