S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Parseli Pysgod

Cynhwysion

  • 2 filled o salmwn
  • 4 llwy fwrdd o saws chilli melys
  • 1 nionyn coch
  • 100g o spigoglys
  • 1/2 cwpan couscous
  • 1 ewyn garlleg

Dull

  1. Trowch y ffwrn i 200c / 400f nwy 4 . Gosodwch y salmwn ar 2 ddarn o foli a gosodwch 2 llwy fwrdd o saws chilli ar bob darn .
  2. Torwch y nionyn yn dennau ar spigoglis a gosodwch ar pob darn pysgod yna 1 llwy fwrdd o ddwr .
  3. Nesaf creu parsel gyda y foli i selio. Gosodwch ar hambwrdd pobi a coginio am 10-12 min.
  4. Gosodwch y cous cous ar garlleg mewn powlen gyda 1/2 cwpan o ddwr wedi berwi a gorchiddio a gadewch i stemio am tua 5 min Nesaf ychwanegwch halen a phupur a ychydig or spigoglis wedi ddanio i cous cous
  5. Dewch ar parseli or ffwrn yna gadewch am tua 5 min a gwaenwch gyda y cous cous

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da

Rysáit gan Gareth Richards.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?