S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Lasagne cyw iâr

Cynhwysion

  • saws bechamel
  • 700ml llaeth
  • teim
  • winwns
  • Deilen bae
  • peppercorns
  • saets sych
  • halen
  • 50g menyn
  • 50g blawd plaen
  • nytmeg
  • mwstard
  • 50g caws parmesan
  • spigoglys bach
  • 3 twb caws ricotta
  • badarch
  • blodfresych
  • brocoli
  • talenau lasagne ffres
  • caws cheddar wedi gratio

Dull

  1. Rhowch 700ml o laeth i dwymo gyda'r teim, winwns, deilen bae, peppercorns, saets a halen.
  2. Dreiniwch a chadw'r hylif. Mewn sosban toddwch y menyn ag ychwanegu'r blawd i greu roux. Ychwanegwch y llaeth fesul tipyn a gorffennwch gyda nytmeg a pharmesan.
  3. Ffriwch y dail sbigoglys heb goesyn wedyn blitsio gyda chymysgydd llaw. Ffriwch hanner winwnsyn wedi ei dorri yn fan a'r blodfresych, brocoli a'r madarch a garlleg. Ychwanegwch gyw iâr wedi coginio a ricotta. Ychwanegwch y sbigoglys a'i wahanu yn 6 swp.
  4. Rhowch tri talen ffres o lasagne ar waelod y ddysgl. Rhowch dameidiau o'r swp cyntaf drostynt a'i ledaenu yn ofalus.
  5. Rhowch bechamel ar ben gyda bach o gaws wedi gratio wedyn ail adrodd hyn 6 gwaith. Gorffennwch gyda mwy o gaws wedi gratio.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?