S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Sleis cwstard ac afal

Cynhwysion

  • toes pwff
  • 2 afal Bramley
  • 1 lemwn
  • 3 llwy fwrdd siwgr caster

I'r cwstard:

  • 1 litre llaeth cyflawn
  • 2 lwy fwrdd rhîn fanila
  • sinamwn
  • 60g powdr cwstard
  • 60g blawd corn
  • 200g siwgr caster
  • 4 ŵy

I'r 'Topin' Eisin:

  • 150g siwgr eisin
  • dŵr
  • afalau sych (freeze dried), opsiynol

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180 ffan.
  2. Torrwch ddau driongl o'r toes pwff a'i rhoi ar hambwrdd pobi wedi leinio gyda phapur gwrthsaim. Wedyn rhowch haenen arall o bapur gwrthsaim ar ei ben a hambwrdd arall ar gyfer ei bwyso lawr. Pobwch fel hyn am 15 munud ac wedyn tynnu'r hambwrdd a'r papur ar y top. Pobwch nes yn euraidd am 5-8 munud.
  3. Gadewch i oeri'n gyfan gwbl.
  4. Yn y cyfamser, pliciwch eich afalau a thorri'n sgwariau bach. Ychwanegwch ychydig ddŵr a sudd lemwn. Cynheswch mewn sosban gyda'r siwgr caster a'i leihau. Defnyddiwch bwtshwr tato i wneud cymysgedd debyg i saws afal/piwre.
  5. Gadewch i oeri.
  6. I wneud y cwstard, cynheswch y llaeth, fanila a'r sinamon. Mewn sosban arall, rhowch y powdr cwstard, blawd, siwgr a'r 4 wy a chwisgio nes bod popeth wedi toddi.
  7. Pam fod y llaeth bron a berwi, rhowch e (1 x ladle ar y tro) mewn i'r gymysgedd wy gan gadw i chwisgio.
  8. Rhowch y cyfan yn ôl i 1 sosban a chadw i chwisgio ar dymheredd canolig/uchel nes bod y blawd corn wedi coginio allan – tua 2-3 munud.
  9. Gadewch i oeri ac yna ei rhoi mewn bag peipio.
  10. Heiniwch y gymysgedd afal ar eich toes pwff, wedyn y cwstard, rhowch y caead arno a rhoi yn yr oergell gyda hambwrdd ar y top.
  11. Cymysgwch 150g o siwgr eisin gydag ychydig ddŵr a'i ledu ar dop y toes. Oerwch.
  12. Gweinwch gyda'r afalau sych (freeze dried) ac ychydig o liw bwyd os dymunwch am addurn ychwanegol.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?